Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
3 Mehefin 2020
Amser y
cyfarfod: 11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6331
------
Dechreuodd yr eitem am 10.58
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
Dechreuodd yr eitem am
10.59
Dywedodd y Llywydd
wrth y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod y Ddeddf
Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) wedi
cael Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mehefin 2020 a dywedodd hefyd mai
dyma hefyd Ddeddf gyntaf Senedd Cymru.
Dechreuodd yr eitem am 10.59
Dechreuodd yr eitem am 11.00
Dechreuodd yr eitem am 12.08
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Neil McEvoy (Canol De
Cymru): Yng ngoleuni'r
digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, ar draws y byd a phrotestiadau
yng Nghymru yn dilyn marwolaeth George Floyd, a wnaiff Llywodraeth
Cymru amlinellu ei pholisïau ar gydlyniant cymunedol?
Am 12.20, cafodd y cyfarfod ei atal am 60 munud
Dechreuodd yr eitem am 13.20
Dechreuodd yr eitem am 14.34
Dechreuodd yr eitem am 15.45
Dechreuodd yr eitem am 16.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7327 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: Derbyniwyd y cynnig
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
11 |
0 |
56 |
rbyniwyd y cynnig
Derbyniwyd y cynnig.D
Dechreuodd yr eitem am 16.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7328 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw am ymchwiliad annibynnol wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth, ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
39 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu 'wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
26 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu “ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
4 |
22 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gychwyn ymchwiliad annibynnol yn cydredeg, wedi'i arwain gan farnwr, i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
35 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7328 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
5 |
11 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd
Dechreuodd yr eitem am 17.51
Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.00
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2020